Tystebauac Adolygiadau

ADOLYGIADAUO GYMRODYR

Mae’rcynllun CA wedi bod yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm addysgu israddedig, athîm gofal sylfaenol hyfryd mewn practis addysgu. Wnaeth y brifysgol cefnogi fii gwblhau fy niploma GP mewn addysg feddygol a dod yn Gymrawd yr AcademiAddysgwyr Meddygol. Mae dyletswyddau arholwr OSCE rheolaidd yn y brifysgol wediarwain i mi gymryd rôl arholwr parhaol ar gyfer sefydliad meddygol mawr yn yDU. Mae’r cyfleoedd addysgu yn y rôl wedi bod yn unigryw ac yn amhrisiadwy.

DR JAMIE JONES

Meddyg Teulu, jamie.jones@doctors.org.uk

Felmeddyg teulu newydd, wnaeth y cynllun rhoi’r cyfle imi ffeindio fy nhraed mewnpractis cyffredinol. Cynigodd cyfleoedd eithriadol i archwilio a datblygudiddordebau arbennig, fel addysgu sgiliau a derbyn mwy o gymwysterau wella fyngyrfa. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, roedd gen i rywfaint o brofiad o ddysgu’rmyfyrwyr meddygol ac roeddwn i hefyd wedi cwblhau Tystysgrif mewn AddysgFeddygol. Wnaeth y profiad helpu fi i ennill swydd fel tiwtor GP gydag YsgolFeddygol Prifysgol Abertawe a hefyd partneriaeth GP.

DR ATHER HUSSAIN

Meddyg Teulu, dr_ather@hotmail.com

Roeddy cynllun cymrodoriaeth academaidd (CA) yn brofiad gwych ar nifer o lefelau; ynglinigol rhoddodd gyfle amhrisiadwy i mi ymarfer mewn byrddau iechyd a phractisau GP, gan elwa o brofiadauamrywiol fy nghydweithwyr yn y meddygfeydd, yn ogystal â’r amrywiadeconomaidd-gymdeithasol y cleifion a sut mae hwnna’n effeithio’i anghenionclinigol. Yn academaidd, roeddwn i’n helpu gyda threialon clinigol, ges i fynghyhoeddi dwywaith a gofrestrais am radd MSc. Wnaeth hyn i gyd helpu fi isicrhau fy swydd bresennol fel Cymrawd Ymchwil Glinigol ym MhrifysgolRhydychen. Yn gymdeithasol, nes i garu’r bobl a’r lle yn Abertawe. Mwynheaisi’r traeth ar ddiwrnodau heulog a byddaf bendant nôl ar ryw adeg.

DR MOHAMMED ZAYED

Meddyg Teulu, mohammed.zayed@nhs.net

Cymerais y Gymrodoriaeth Academaidd cyn gynted ag y gwnes i gymhwyso fel meddyg teulu ac roedd yn ffordd berffaith i mi archwilio fy niddordeb mewn addysg a rhoi’r cyfle i mi weithio mewn ardaloedd o Gymru na fyddwn byth wedi cael mynediad iddynt fel arall. Cododd fy hyder mewn cymaint o ffyrdd: ynglinigol, yn broffesiynol ac yn bersonol. Llwyddais i ennill fy niploma mewn Addysg Feddygol ochr yn ochr â gweithio a rhoi fy nysgu ar waith mewn amser real. Mae fy nghymrodoriaeth wedi cael effaith uniongyrchol ar fy rôl newydd fel Arweinydd Meddyg Teulu Addysg aml broffesiynol ar gyfer AaGIC Bwrdd Iechyd Cymru wledig, gan barhau i fod yn Addysgwr Meddygon Teulu i Brifysgol Abertawea gweithio fel Meddyg Teulu yn Ne Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r tîm cymrodoriaeth a dymunaf lwyddiant ac ehangiad parhaus y cynllun cymrodoriaethyn y dyfodol.

DR WENDY SLATER

Meddyg Teulu, wendy.slater3@wales.nhs.uk

ADOLYGIADAUGAN PRACTISIAETHAU

Maeein practis wedi cynnal ychydig o Gymrodyr Academaidd dros y blynyddoedddiwethaf, ac mae eu mewnbwn i’r practis wedi bod yn amhrisiadwy. Yn ystod eucyfnod gyda ni fe wnaethant dreulio amser yn gweithio ar amrywi o brosiectau ahelpodd i wella ein gwasanaeth a gwella gofal cleifion. Fe wnaethant hefydganiatáu rhywfaint o amser gwarchodedig i’r meddygon teulu wneud newidiadaugwerthfawr i ddatblygiad y practis. Mae’r cymrodyr i gyd wedi ffitio’n dda idîm y practis ac wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan yr holl aelodau staff.Yn lleol, rydym wedi gweld Cymrodyr yn cael eu cyflogi gan amryw o feddygfeyddac mae hyn yn sicr wedi cael effaith gadarnhaol ar recriwtio meddygon teulu ynyr ardal.

Dr Llinos Roberts

Meddygfa cynnyrch Tymbl

Roeddemyn ffodus bod Cymrawd Academaidd yn ymuno â ni ar adeg pan oedd morâl yn iselac roedd pryderon ynghylch cynllunio olyniaeth, gyda’r Meddygon Teulu yn dod ioedran ymddeol yn ogystal â’r argyfwng recriwtio oedd yn cael ei deimlo’narbennig gan bractisau gwledig bach fel ein un ni. Yn ystod yr amser roeddgennym Gymrawd Academaidd gyda ni, fe adfywiodd yr arfer gyda’i egni a’ifrwdfrydedd. O ganlyniad i’w amser gyda ni, derbyniodd gynnig swydd barhaol, acrwy’n siŵr na fyddai wedi gwneud cais amdani cyn profi manteision a boddhad oweithio mewn cymuned wledig fach, gyfeillgar. Rydym yn gobeithio fel practisfod meddygfeydd eraill yn elwa o’r cynllun hwn.

Mrs Kim Davies

Meddygfa Tywi

Os ydych chi’n feddygteulu sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddod yn Gymrawd Academaidd, neu osydych chi’n cynrychioli practis a allai fod eisiau cynnal Cymrawd Academaidd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.